Tai Wales & West yn rhoi peiriant torri porfa, sy’n helpu trac beicio cymunedol
Diolch i beiriant torri porfa sy’n werth £3000 a roddwyd i Marsh Tracks yn Y Rhyl, llwyddwyd i leihau’r amser a gaiff ei dreulio a nifer y gweithwyr a oedd yn ofynnol er mwyn cadw’r trac beicio mewn cyflwr gwych, yn ddramatig.
Mae Tai Wales & West a Phartneriaethau Anwyl, y mae’r ddau ohonynt wedi’u lleoli yn Ewloe, Sir y Fflint, wedi talu am beiriant torri porfa newydd i’w yrru yn lle ei wthio, er mwyn lleihau’r faich o dorri’r porfa yn y cyfleuster ym Marsh Road, trac beicio a BMX ar ffordd gaeedig, a gaiff ei gynnal a’i gadw gan wirfoddolwyr yn llwyr.
Arferai’r cyfarwyddwr, Chris Allen, dreulio hyd at 10 awr yr wythnos yn torri’r porfa gan ddefnyddio peiriant a oedd yn cael ei wthio ganddo, ond torrwyd y cyfnod hwn i dair awr gyda’r peiriant newydd hwn.
Yn ogystal â lleihau galwadau corfforol y dasg, mae’r amser a gaiff ei arbed wedi rhyddhau Chris i gyflawni tasgau cynnal a chadw eraill ar y safle, dywedodd yr ysgrifennydd, Vic Gulliver.
“Mae’r peiriant torri porfa wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ni,” dywedodd. “Roedd torri’r porfa gan ddefnyddio’r peiriant gwthio yn dasg gorfforol fawr, felly mae hwn wedi hwyluso pethau gymaint.
“Fel cyfleuster cymunedol di-elw, nid ydym yn codi fawr iawn ar bobl i ddefnyddio’r trac, felly pan fydd angen offer newydd arnom neu arian i dalu am waith trwsio, rydym yn dibynnol ar roddion. Rydym yn hynod ddiolchgar i Dai Wales & West ac Anwyl Construction am eu cefnogaeth.”
Cwblhaodd Partneriaethau Anwyl gynllun newydd a oedd yn cynnwys 41 o fflatiau ar gyfer Tai Wales & West y llynedd ar safle hen Westy Grange fel rhan o’r gwaith o ailddatblygu ardal glan môr Y Rhyl.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Dai Wales & West ac Anwyl Construction am eu cefnogaeth”
Vic Gulliver, Marsh Tracks
Dywedodd Gary Cook, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West: “Mae Marsh Tracks yn gyfleuster cymunedol gwych ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu helpu.
“Y gobaith yw y bydd ein cyfraniad ni yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r tîm o wirfoddolwyr sy’n neilltuo cymaint o’u hamser i redeg y trac, yn ogystal ag i’r grwpiau cymunedol niferus a’r preswylwyr lleol yn Y Rhyl sy’n defnyddio’r cyfleuster.”
Dywedodd Mike Nevitt, Cyfarwyddwr Rheoli Partneriaethau Anwyl: “Fel busnes lleol, Partneriaethau Anwyl, rydym yn teimlo’n falch iawn o gefnogi Marsh Tracks trwy roi cyllid iddynt brynu peiriant torri porfa newydd er mwyn cynnig cyfleusterau gwell i bobl sy’n defnyddio’r trac.”
“Mae Marsh Tracks yn fenter gyffrous i ardal Y Rhyl a Gogledd Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, ac mae’r trac y maent wedi’i ddatblygu yn rhagorol. Mae’r staff cymorth yn gwneud gwaith gwych yn dwyn pobl ifanc trwy’r sesiynau hyfforddi y maent yn eu cynnig.”
Agorwyd Marsh Tracks yn 2008 yn dilyn marwolaeth drasig pedwar beiciwr lleol ar 8 Ionawr 2006, sef y ddamwain feicio waethaf a fu yn y DU erioed o hyd. Mae’r cyfleuster yn cynnwys trac beicio ffordd a thrac BMX a’i genhadaeth yw cynnig lle mwy diogel i feicwyr.
Am ragor o wybodaeth, trowch at www.marshtracks.co.uk