Taith marathon gerdded y tîm datblygu tai yn codi dros £10,000 ar gyfer elusennau
Cyfnewidiodd tîm datblygu tai eu hesgidiau gwaith am esgidiau cerdded wrth iddynt gwblhau marathon gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro.
Cododd y tîm, o ddarparwr tai Tai Wales & West, dros £10,000 drwy gerdded 26.2 milltir o Abergwaun i Aberteifi.
Bydd yr arian yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng elusennau staff presennol y gymdeithas dai, Cymdeithas Clefyd Motor Neurone, Parlys yr Ymennydd Cymru, Parkinson’s UK Cymru a Cymru Versus Arthritis.
““Roedd y pellter o 26.2 milltir yn her i bob un ohonom.”
Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West ar gyfer Gorllewin Cymru
Ymunodd cydweithwyr o swyddfeydd yng Ngogledd, De a Gorllewin Cymru yn y digwyddiad Marathon Gerdded.
Ar y diwrnod cawsant eu cynorthwyo gan dîm cymorth a chawsant help hefyd gan Fishguard Resort, lle cychwynnodd y daith a chafodd bwyd a dŵr ei ddarparu gan Bwydydd Castell Howell.
Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West ar gyfer Gorllewin Cymru: “Am ddiwrnod hollol wych, ond blinedig iawn.
“Roedd yn wych croesawu cydweithwyr o’r Gogledd a’r De i gerdded Llwybr Arfordirol godidog Sir Benfro o’r Fishguard Bay Resort i hen safle Ysbyty Aberteifi, y safle lle fydd ein swyddfeydd newydd cyn bo hir.
“Roedd y pellter o 26.2 milltir yn her i bob un ohonom. Mae’r swm o arian a godwyd gennym ar gyfer ein pedair elusen staff yn hynod ddymunol. Diolch i’n holl noddwyr a chefnogwyr.”