Teuluoedd yn Abergwaun yn symud i’w cartrefi fforddiadwy newydd gan Wales & West
Mae’r teuluoedd cyntaf wedi symud i’w cartrefi newydd yn ein datblygiad tai fforddiadwy sydd wedi costio £4 miliwn, ac sy’n edrych allan dros Fae Abergwaun.
Cwblhawyd 12 o gartrefi newydd yn natblygiad Tai Wales & West ym Mharc y Cefn oddi ar Ffordd Penwallis cyn pryd, gan ganiatáu i deuluoedd lleol sy’n aros am gartref ar gofrestr tai Cartrefi Dewisedig Sir Benfro i symud i mewn.
Yr eiddo hyn yw ein datblygiad newydd cyntaf ar raddfa fawr yn Sir Benfro. Cychwynnwyd ar y gwaith ar y safle ym mis Ionawr, ac ar ôl ei gwblhau ym mis Chwefror 2019, bydd yn darparu 30 o dai, byngalos a fflatiau rhent fforddiadwy i deuluoedd lleol sy’n byw ac sy’n gweithio yn y dref arfordirol boblogaidd.
Ganwyd Shannon Ryan yn Abergwaun ac roedd hi a’i phartner Shane ymhlith y preswylwyr cyntaf i symud i mewn i’r cartrefi ar 4 Hydref. Mae gan Shannon a’i phartner ddau fab, un yn dair oed ac un yn fis oed, ac roeddent yn awyddus i symud o’u byngalo i gartref mwy addas.
“Rydw i wedi gwylio’r tai yn cael eu hadeiladu, felly rydw i’n falch iawn bod ein teulu yn gallu symud i Barc y Cefn.”
Shannon Ryan
Dywedodd Shannon, a fu’n gweithio yn archfarchnad Co-op yn y dref nes y ganwyd ei mab cyntaf: “Rydw i wedi bod yn byw yn Abergwaun ar hyd fy oes. Mae fy mam yn byw gerllaw y safle ac rydw i wedi gwylio’r tai yn cael eu hadeiladu, felly rydw i’n falch iawn bod ein teulu yn gallu symud i Barc y Cefn.
“Roedd gan ein hen fyngalo ystafell wlyb a chawod ac roedd yn fwy addas i rywun arall. Rydw i’n edrych ymlaen i gael ystafell ymolchi ar gyfer y bechgyn ac ystafell wely sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r dref.”
“Rydw i’n dioddef o iselder a bydd y tawelwch a’r llonyddwch ym Mharc y Cefn yn trawsnewid fy mywyd yn llwyr.”
Leonard Morse
Roedd Leonard Morse, peiriannydd TG sydd wedi ymddeol, wrth ei fodd i symud o’r fflat yn Abergwaun, lle y mae wedi byw ers 13 blynedd, i’w fyngalo newydd. Ganwyd a magwyd Mr Morse, 65 oed, yn Sir Benfro, a dywedodd: “Mae fy nghartref newydd yn anhygoel. Rydw i’n dioddef o iselder a bydd y tawelwch a’r llonyddwch ym Mharc y Cefn yn trawsnewid fy mywyd yn llwyr.”
Cyflogwyd Morgan Construction Wales gan Dai Wales & West (WWH) i adeiladu’r cartrefi, a ariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro. Maent yn rhan o fuddsoddiad parhaus WWH mewn cartrefi fforddiadwy ac o ansawdd yn y sir.
Yn ogystal, mae’r gwaith wedi cychwyn i adeiladu wyth o dai rhent fforddiadwy ar safle Iard Parrog yn Nhrefdraeth. Y llynedd hefyd, roedd WWH wedi buddsoddi £850,000 mewn moderneiddio cartrefi presennol yn Sir Benfro trwy wneud gwaith glanhau ac addurno a gosod cannoedd o geginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri a drysau newydd yn ei heiddo. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys rhaglen sy’n costio £150,000 er mwyn glanhau a moderneiddio 32 o gartrefi yng nghynllun cyfagos Gwelfor yn Abergwaun.
“Ar gyfer y preswylwyr anabl a hŷn a fydd yn symud i’r byngalos, byddant yn gwneud gwahaniaeth anferthol i’w bywydau a’u lles.”
Glenda Bowen, Rheolwr Tai ar gyfer Tai Wales & West Housing
Dywedodd Glenda Bowen, Rheolwr Tai ar gyfer Tai Wales & West Housing: “Mae’r teuluoedd yn teimlo mor gyffrous i symud i’r cartrefi newydd gan ei bod yn ardal brydferth ac mae’r tai mor fodern a chynnes.
“Rydym wedi cydweithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro er mwyn neilltuo’r eiddo newydd i deuluoedd ar gofrestr Tai Dewisedig Sir Benfro ac mae pawb a fydd yn symud yno yn byw yn Abergwaun a’r cyffiniau. Maent yn cael eu gosod i’r bobl hynny y mae angen cartrefi arnynt y gallant fforddio eu rhentu a’u gwresogi fwyaf, ac y byddant yn addas i’w hanghenion. Ar gyfer y preswylwyr anabl a hŷn a fydd yn symud i’r byngalos, byddant yn gwneud gwahaniaeth anferthol i’w bywydau a’u lles.
“Yn aml, beirniadir awdurdodau lleol a chymdeithasau tai am gynnig tai i bobl o’r tu allan i’r ardal, felly rydw i’n falch iawn bod yr holl deuluoedd y neilltuwyd cartref iddynt yn lleol.”
Cllr Pat Davies
Dywedodd cynghorydd Abergwaun, Pat Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Dai a Gwasanaethau Rheoliadol: “Mae Tai Wales & West wedi gwneud gwaith gwych wrth ddatblygu safle Parc y Cefn mewn ffordd sensitif. Mae’r cartrefi wedi cael eu dylunio’n dda ac rydw i’n hynod o falch bod y cam cyntaf wedi cael ei gwblhau.
“Mae sawl teulu ifanc yn Abergwaun wedi fy ffonio i ddweud pa mor falch ydynt eu bod wedi cael cartref ym Mharc y Cefn. Yn aml, beirniadir awdurdodau lleol a chymdeithasau tai am gynnig tai i bobl o’r tu allan i’r ardal, felly rydw i’n falch iawn bod yr holl deuluoedd y neilltuwyd cartref iddynt yn lleol.”