Ynglŷn â’r datblygiad hwn
Dyluniwyd y datblygiad dros bedwar llawr gyda phob fflat yn edrych allan dros gwrt mewnol preifat sydd wedi’i dirlunio.
Ceir mynediad i’r fflatiau trwy gyntedd agored a ddeniadol sy’n arwain at lifftiau i bob llawr.
Mae gan bob fflat gegin / ardal fwyta cynllun agored, lolfa, un neu ddwy ystafell wely ac ystafell ymolchi gyda chawod ar wahân. Maent wedi’u gosod gyda gwres canolog nwy ac mae ganddynt le storio.
Y tu allan, mae yna adeilad storio diogel ar wahân ar gyfer beiciau a sgwteri trydan.
Mae’r datblygiad yn gymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely – pob un ar rent cymdeithasol
Mae y Rhath yn ardal boblogaidd, fywiog yng Nghaerdydd, sydd ond taith gerdded fer neu daith bws i ganol y ddinas.
Mae Ffordd Casnewydd yn gartref i amrywiaeth o siopau ac archfarchnadoedd, gan gynnwys Marks and Spencer, Argos, Morrisons ac Aldi. Mae hefyd yn agos at bentrefi cyfagos Penylan a Pharc y Rhath sydd ill dau yn cynnig ymdeimlad gwirioneddol o gymuned ac sydd â sawl parc, caffi a siop.
Mae yna arhosfan bysiau yn agos at y cynllun gyda bysiau rheolaidd i ganol y ddinas ac ardaloedd eraill yng Nghaerdydd.
Ar gyfer pob ymholiad am y datblygiad hwn, e-bostiwch development.queries@wwha.co.uk